SL(6)422 – Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru)  (Diwygio etc.) 2023

Cefndir a diben

Ym mis Gorffennaf 2021, llofnododd Llywodraeth y DU y cytundeb masnach rydd gyda Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein.

Mae Pennod 12 o’r cytundeb masnach rydd yn sefydlu system fandadol ar gyfer cyd-gydnabod cymwysterau proffesiynol rhwng y DU, Norwy, Gwlad yr Iâ, a Liechtenstein (y gwladwriaethau sy'n bartïon). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i reoleiddwyr ledled y DU gydnabod cymwysterau proffesiynol ymgeiswyr o'r gwladwriaethau sy'n bartïon i'r cytundeb, pan fo'r cymwysterau hynny yn gymaradwy â'r cymwysterau sy'n ofynnol i gael mynediad i'r un proffesiwn, ac i'w ddilyn, yn y DU. Mae’r cytundeb masnach rydd hefyd yn nodi'r ffordd y mae rhaid ymdrin â cheisiadau am gydnabod cymwysterau ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i reoleiddwyr gynnig cyfnodau ymaddasu a phrofion gallu pan fo angen.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu'r cytundeb masnach rydd yng Nghymru ac yn ei gwneud yn ofynnol i reoleiddwyr Cymreig gydymffurfio â'r darpariaethau ar gyfer cydnabod cymwysterau proffesiynol yn y cytundeb masnach rydd. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio deddfwriaeth Cymru yn ôl yr angen i ystyried gweithredu’r cytundeb masnach rydd a diddymu deddfwriaeth flaenorol yn y maes hwn, sef Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswyddau ar y rheoleiddwyr a ganlyn mewn perthynas â’r deuddeg o broffesiynau rheoleiddiedig Cymreig a restrir isod:

Rheoleiddiwr

Galwedigaethau

Gweinidogion Cymru

Dadansoddwr amaethyddol

Cyngor y Gweithlu Addysg

Dadansoddwr bwyd

Gofal Cymdeithasol Cymru

Archwilydd bwyd

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Gyrrwr a chynorthwyydd proffesiynol sy’n ymgymryd â chludo da byw, ceffylau a dofednod

 

Dadansoddwr cyhoeddus

 

Athro neu athrawes ysgol

 

Cigyddwr

 

Rheolwr gofal cymdeithasol

 

Gweithiwr cymdeithasol

 

Gweithiwrr gofal cymdeithasol mewn:-

-      Gwasanaeth cartref gofal

-      Gwasanaeth cymorth cartref

-      Gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd

-      Gwasanaeth llety diogel

 

Gweithiwr cymorth ieuenctid

 

Gweithiwr ieuenctid

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo'r Senedd: (i) wedi'i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Nid yw’n glir pam y diffinnir y gair “penodedig” yn rheoliad 2. Rhoddir ei ystyr fel “wedi ei bennu mewn rheoliadau”, ond ni ddefnyddir y gair yn y cyd-destun hwn yng nghorff y Rheoliadau (yn hytrach na’r geiriad y mae’r Rheoliadau yn ei fewnosod mewn deddfwriaeth arall). Fe’i defnyddir dim ond fel rhan o’r ymadrodd “gwladwriaeth benodedig”, a ddiffinnir fel gwladwriaeth benodedig yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau, ac fel rhan o’r ymadrodd “gweithiwr proffesiynol gwladwriaeth benodedig” sy’n cysylltu’n ôl â’r diffiniad o wladwriaeth benodedig. Nid yw’n ymddangos felly bod unrhyw ddefnydd o’r gair “penodedig” yng nghyd-destun “wedi ei bennu mewn Rheoliadau”, a gallai ei gynnwys fel term diffiniedig nad yw’n adlewyrchu’r modd y’i defnyddir yn y Rheoliadau achosi dryswch i’r darllenydd. Felly, gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro pam mae diffiniad o “penodedig” wedi’i gynnwys yn rheoliad 2.

2. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod ei waith drafftio'n ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 8(6) yn cyfeirio at ddogfennau a ddilyswyd yn unol â chyfraith y Deyrnas Unedig. O dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, ystyr y “Deyrnas Unedig” yw Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae’n ymddangos felly y dylai’r ddarpariaeth gyfeirio at gyfreithiau Cymru a Lloegr, a/neu’r Alban a/neu Ogledd Iwerddon os yw’n gymwys.

3. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr ei destun Cymraeg a’i destun Saesneg

Yn y testun Saesneg, mae rheoliad 12(b) yn ei gwneud yn ofynnol i reoleiddiwr Cymreig sicrhau bod gwybodaeth ar gael am y “cyfreithiau perthnasol” sydd i’w cymhwyso o ran camau disgyblu, cyfrifoldebau ariannol ac ati. Yn y testun Cymraeg, nodir y “relevant laws” fel “deddfau perthnasol”.

I ni, mae “deddfau” yn gysylltiedig â “deddfwriaeth sylfaenol”, yn hytrach na’r cysyniad ehangach o “gyfreithiau”. Byddem yn croesawu eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa “gyfreithiau” y bwriedir eu cynnwys yn rheoliad 12(b) ac a oes unrhyw anghysondeb rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r rhagymadrodd i’r Rheoliadau yn nodi bod ymgynghoriad wedi’i gynnal fel sy’n ofynnol yn ôl Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002(1) Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 28 Ionawr 2002, sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (“y Rheoliad”). Mae hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ymgynghori’n agored a thryloyw a chyhoeddus, yn uniongyrchol neu drwy gyrff cynrychiadol, yn ystod y gwaith o baratoi, gwerthuso ac adolygu cyfraith bwyd, ac eithrio pan nad yw brys y mater yn caniatau hynny. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at ymgynghori â rheoleiddwyr o dan Ddeddf Cymwysterau Proffesiynol 2022 (“Deddf 2022”) ond nid yw’n cynnwys dim manylion ynghylch ymgynghori o dan y Rheoliad. Gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau pa ymgynghoriad a gynhaliwyd ganddi o dan y Rheoliad, fel y nodir yn y rhagymadrodd.

5. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn fod y confensiwn 21 diwrnod yn cael ei dorri (h.y. y confensiwn y dylai fod 21 diwrnod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a nodwn yr esboniad am dorri’r confensiwn a ddarperir gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, mewn llythyr llythyr at y Llywydd, dyddiedig 30 Tachwedd 2023.

Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y llythyr:

Mae Llywodraeth y DU yn defnyddio'r pwerau cydredol yn Neddf Cymwysterau Proffesiynol 2022 i wneud Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Diwygio) 2023 ("Rheoliadau'r DU"). . Mae Rheoliadau'r DU yn gweithredu ledled y DU ddarpariaethau sy'n ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol sydd wedi eu cynnwys yn y cytundeb masnach rydd rhwng Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy a'r Deyrnas Unedig (“y Cytundeb Masnach Rydd”), ac yn gwneud darpariaeth mewn meysydd pwnc sydd wedi eu datganoli i Gymru.

Mae Rheoliadau Cymru yn diwygio Rheoliadau'r DU i ddarparu nad ydynt yn gymwys i reoleiddwyr Cymreig ar broffesiynau rheoleiddiedig penodedig y mae gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol mewn cysylltiad â hwy.

Mae Rheoliadau Cymru hefyd yn gosod y dyletswyddau sy'n ofynnol o dan y Cytundeb Masnach Rydd ar reoleiddwyr Cymreig ac maent yn diwygio deddfwriaeth sectorol yng Nghymru i adlewyrchu gweithredu'r Cytundeb Masnach Rydd a dirymu Rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015.

Gan fod Rheoliadau Cymru yn diwygio Rheoliadau'r DU, bu rhaid gohirio gwneud Rheoliadau Cymru nes bod Rheoliadau'r DU wedi'u gwneud ac yn bodoli yn y gyfraith.  Ni osododd Llywodraeth y DU Reoliadau'r DU hyd 17 Hydref, ac ni wnaed y rhain hyd 29 Tachwedd. Roedd hyn yn golygu na ellid gwneud Rheoliadau Cymru hyd 30 Tachwedd. Gan fod rhaid i Reoliadau Cymru ddod i rym erbyn 1 Rhagfyr er mwyn cydymffurfio â thelerau'r Cytundeb Masnach Rydd, mae hi felly yn angenrheidiol iddynt ddod i rym lai na 21 o ddiwrnodau ar ôl iddynt gael eu gwneud.  Os nad yw Rheoliadau Cymru mewn grym erbyn y dyddiad hwnnw, mae risg y bydd rheoleiddwyr Cymreig a Gweinidogion Cymru yn torri'r Cytundeb Masnach Rydd ac yn methu â chyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru ddarparu manylion y trafodaethau a gafodd gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn a Rheoliadau’r DU uchod, er mwyn osgoi gwneud y ddwy gyfres o reoliadau mewn cyfnod mor fyr.

6. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Pwyllgor yn nodi bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf 2022, y cafodd dau gynnig cydsyniad deddfwriaethol eu trafod yn y Senedd mewn perthynas â hwy cyn i’r Ddeddf honno gael ei phasio. Roedd Llywodraeth Cymru yn argymell bod cydsyniad y Senedd yn cael ei atal oherwydd bod pwerau cydredol i wneud rheoliadau wedi’u cynnwys, ac atalwyd y cydsyniad hwnnw.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r holl bwyntiau adrodd, ac eithrio pwynt 6.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

6 Rhagfyr 2023